Pieces of white fabric.

Dywedwch ‘ie’ i ffrog briodas gynaliadwy

Mae ein blogiwr gwadd, Alex, yn dweud wrthym am eitem o ddillad mae hi’n dwlu arni – y ffrog briodas y’i creodd ei hun.

Weithiau, rwy’n credu mai’r unig reswm yr oeddwn i eisiau priodi oedd ond er mwyn gallu gwneud fy ffrog briodas fy hun… Ac, oherwydd ein bod ni wedi rhedeg i ffwrdd i Ynysoedd y Caribî a bod yr holl gynllunio’n syndod o rwydd, penderfynais osod her i mi fy hun – nid dim ond dylunio, torri patrwm a gwnïo Y FFROG, ond hefyd ei gwneud 100% yn gynaliadwy: ei hadfer o ddilledyn presennol a pheidio â chaniatáu i’m hun brynu unrhyw ddefnydd newydd at y diben o gwbl. A hynny i gyd fis cyn i ni hedfan i St Vincent. Straen a thynnu gwallt yn anochel!

Alex on her wedding day wearing her sustainable wedding dress.

Daeth popeth at ei gilydd, yn amlwg, gydag wythnos i fynd, ac roeddwn i’n DWLU ARNI! Roedd y ffrog yn berffaith i’r achlysur, sef priodas anffurfiol iawn ar y traeth, roedd yn edrych yn union fel yr oeddwn i wedi’i dychmygu yn fy meddwl, roedd wedi’i gwneud i’m hunion fesuriadau i ac, uwchlaw popeth, roedd yn cyd-fynd â’m hegwyddorion cynaliadwyedd. A heb sôn am fod yn rhatach o lawer na ffrog briodas newydd!

Dechreuais gyda ffrog briodas berffaith dda a wnaed o daffeta lliw siampên polyester, a chanddi leinin satin duchesse. Y peth anodd oedd bod popeth wedi’i osod mewn paneli neu wedi’i dorri ar letraws, felly roedd rhaid i mi wneud llawer o gyfateb darnau pos i gael darnau fy mhatrwm i i gyfateb i’r ffabrig canlyniadol yn gywir.

Ar ôl i mi ddatbwytho’r holl beth, roedd gen i lawer o daffeta, godre hir o satin duchesse, leinin teneuach, llawer o diwl a rhai trimiau (sip, ffasnin bach a llygad a rhai gwifrau cynnal ‘boning’). Penderfynais y byddai’r satin cryfach, pwysau canolig yn gweithio’n well gyda’r hyn yr oeddwn eisiau ei gyflawni, felly dyna a ddefnyddiais ar gyfer fy mhrif ffabrig.

Gallwch ddarllen am y broses greu ar fy mlog, ond afraid dweud bod pob un peth wedi cael ei ddefnyddio. ’Doedd braidd dim o’r duchesse ar ôl ac roeddwn hefyd wedi defnyddio’r holl drimiau a leinin yn ogystal â’r cwpanau a’r gwifrau o hen fra, oherwydd bod gan fy ffrog i gwpanau yn wahanol i’r bustier a oedd gan y llall.

Roeddwn i’n agos at roi’r ffidil yn y to sawl gwaith a phrynu defnydd gwell (roedd y leinin yn eithriadol o denau a byddwn i wedi ffafrio cwpro neu Bemberg yn ei le), ond daliais ati. Hefyd, roedd y sip cyffredin yn boen a chymerodd amser hir iawn i mi ei osod, tra byddai wedi cymryd eiliadau i mi osod un anweladwy. Ond roedd y cyfan yn werth yr ymdrech! Ac mae gen i ddigon o ffabrig ar ôl o hyd i wneud ffrog arall rywbryd yn y dyfodol o’r taffeta.

Er bod ailsteilio’n boblogaidd iawn nawr, mae’n syniad da meddwl am siopau elusen neu hyd yn oed eitemau sydd eisoes yn eich cwpwrdd dillad fel ffynhonnell ffabrig a thrimiau. A hyd yn oed os nad ydych chi’n ‘ailddefnyddiwr a chyweiriwr’ o fri, mae’n berffaith bosibl cyfuno egwyddorion, hobïau a ffasiwn, a hynny ar ddiwrnod pwysicaf eich bywyd!

Alex wearing her wedding dress.

Mae Alex yn credu mewn “gwnïo buddiol”: torri, pwytho, ailsteilio, gwneud, dysgu, addysgu, rhoi’r gorau i ffasiwn cyflym ac achub y blaned, un prosiect hyfryd a wnaed â llaw ar y tro. Darllenwch ei blog yn sewrendipity.com.