Blue fabric on a sewing machine.

Fy mlwyddyn o beidio â phrynu dillad newydd

Mae Gillian wedi rhoi’r gorau i brynu dillad newydd am flwyddyn.

Gofynnom iddi pam y gwnaeth hi hynny a sut mae pethau’n mynd.

Gillian, dywedwch wrthym ychydig amdanoch chi’ch hun a pham y penderfynoch roi’r gorau i brynu dillad newydd am flwyddyn?

Dwi’n fam 30-rhywbeth oed i blentyn bach. Dwi’n gweithio yn y sector cynaliadwyedd, felly rwy’n ceisio bod yn ymwybodol o ble rwy’n gwario fy arian. Fe wnaeth ymgyrch Caru Eich Dillad greu argraff arnaf a rhoi ysgogiad i mi wneud hyn.

Mae ffasiwn y stryd fawr mor homogenaidd. Rydych yn gweld pobl yn gwisgo pethau mor debyg ac yna mae hyn yn newid mor gyflym. Pan rydych yn clywed yr ystadegau ynghylch y symiau sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu na chânt eu gwisgo hyd yn oed, mae’n  syfrdanol.

Rheswm arall oedd yr her greadigol. Roeddwn i eisiau gwella fy sgiliau gwnïo, ac mae addasu – gwneud dillad newydd o hen rai – yn rhatach ac yn haws na gwneud dilledyn o’r newydd. Rwy’n mwynhau crefftau ac mae’n siwr fy mod i wedi bod yn gwneud mwy ohonynt ers cael fy mhlentyn.

Roedd cost yn ffactor arall: fel llawer o bobl, mae angen i mi fod yn ddarbodus gan fod gen i blentyn bach ac angen gwario arian ar y tŷ hefyd. Dwi wedi ymhél â siopa mewn siopau elusen yn y gorffennol; fel myfyriwr, ar gyfer gwisg ffansi, a phan roeddwn yn feichiog i geisio dod o hyd i ddillad mawr dros dro. Fe wnaeth pob un o’r rhain arwain at sylweddoli bod gwisgo dillad ail-law yn beth iawn.

Roedd yr amseriad yn fy mywyd yn iawn ar gyfer hyn. Dwi’n teimlo nawr nad oes angen i mi fod mor ffasiynol, felly rwy’n camu’n ôl o’r siopau i sylweddoli pa mor ddwl yw’r cyfan. Ond dwi’n dal i hoffi’r wefr o roi gwisg at ei gilydd gyda dillad sy’n newydd i mi, felly roedd rhaid i mi gadw cysylltiad rhywle – ni fyddwn i’n gallu mynd blwyddyn gyfan heb brynu UNRHYW ddillad!

Pa reolau y gwnaethoch eu gosod ar eich cyfer eich hun?

Byddwn yn stopio prynu dillad newydd am flwyddyn galendr, rhwng Ionawr a Rhagfyr 2015. Fe wnes i gadw fy nillad presennol a chaniatáu fy hun i brynu esgidiau a dillad isaf newydd. Ar wahân i hynny, dwi ddim yn gallu prynu unrhyw beth newydd: felly mae dillad “newydd i mi” yn dod o siopau elusen, eBay, tudalennau gwerthu Facebook, ffrindiau a theulu. Gallaf brynu dillad ail-law naill ai i’w gwisgo fel y maen nhw neu i’w haddasu.

A yw gwybod sut i wnïo yn helpu?

Mae fy mam yn gallu gwnïo, felly roedd gen i diwtor pan roedd angen ac rwy’n meddwl fy mod i wedi dysgu mwy nag yr oeddwn yn ei sylweddoli yn fy arddegau, ar dechnegau gwniadwaith. Byddwn yn disgrifio fy lefel sgiliau fel brwdfrydig yn hytrach na chywir yn dechnegol. Dwi ddim yn gallu/yn defnyddio patrymau ffurfiol. Fel arfer, rwy’n gwneud dillad o eitemau sydd eisoes yn fy ffitio, neu’n addasu dillad presennol trwy eu pinio a’u mesur i ffitio.

Er yr hoffwn wella fy sgiliau, dwi wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i ddosbarth nos priodol. Felly gyda’r amrywiaeth a’r swm o diwtorialau sydd ar gael ar-lein (yn rhad ac am ddim), roeddwn o’r farn mai ymarfer – profi a methu – oedd y ffordd orau i ddysgu.

Sut mae pethau wedi mynd hyd yn hyn?

Rwyf wedi wynebu rhai heriau ar hyd y ffordd: roedd gen i dair priodas i’w mynychu yn ystod y flwyddyn, a doeddwn ddim yn gallu prynu gwisg newydd!

Ond yn bennaf, mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Dwi wedi clywed pobl yn siarad am ail-greu’r wefr wrth brynu gyda dillad ail-law: dwi wedi canfod fy mod yn cael dwywaith y wefr yn sgil arbed arian a’r her greadigol. Mae’n braf peidio â chael y pwysau o fynd i siopau dillad newydd a phenderfynu beth i’w brynu - gallaf ddileu’r holl negeseuon e-bost hyrwyddo/sêl!

Blogger Gillian