Hen ffrogiau mamolaeth, pethau sydd bellach yn rhy fach i’ch plant, hyd yn oed dillad sydd wedi rhwygo neu’n dangos staeniau – beth bynnag rydych am ei waredu, mae gennym gynghorion ar ddod o hyd i fannau lle cânt eu caru o’r newydd. Gallech ennill ychydig o arian o wneud hynny.
Hyd yn oed os na fyddwch yn troi eich dillad diangen yn arian, byddwch chi’n gwybod bod rhywun yn rhoi cartref da iddynt. A thrwy eu cadw allan o safleoedd tirlenwi, byddwch yn gwneud ffafr anferthol â’r amgylchedd ar yr un pryd.