Mae gennym lwythi o gynghorion gofalu syml a fydd yn arbed arian i chi, ac yn arbed ychydig ar yr amgylchedd. Ac os myfyriwr ydych chi, neu rywun sy’n newydd i’r gêm, efallai yn wir y byddwn ni’n eich arbed rhag trychineb gyda’r peiriant golchi.
Ar ben hynny, pwy sy’n dweud bod y grefft o drwsio dillad wedi mynd â’i phen iddi? Dilynwch ein cyngor arbenigol a byddwch chi’n pwytho cyn pen dim: yn ddi-os, byddwch chi’n giamstar gwnïo ymhen dim o dro.
Ac os oes gennych hoff wisgoedd sydd wedi’u hachub gennych, beth am eu rhannu a lledu’r gair?