Trwy wefannau fel eBay, Gumtree a Facebook, gallwch gyrraedd gynulleidfa bosibl enfawr, a dod o hyd i unigolyn sy’n chwilio am yr union beth yr ydych yn ei werthu. Mae gwerthu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd, yn enwedig os oes gennych ffôn clyfar - tynnwch lun o beth sydd gennych i’w werthu a lanlwytho’r lluniau mewn eiliadau. Ar gyfer arweiniad arbenigol, gwiriwch gyngor y llwyfan ar-lein yr ydych yn ei ddefnyddio cyn dechrau gwerthu.
Neu gallwch ddilyn y llwybr mwy traddodiadol, trwy werthu mewn ffeiriau sborion neu arwerthiannau cist car, neu drwy eich allfa arian am ddillad leol.
Yr hyn sy’n bendant yw, gyda thuedd cynyddol i brynu dillad ail-law a dillad vintage, mae yna farchnad barod. Felly, gwiriwch eich dewisiadau, a rhestrwch eich dillad.