Rydym yn hapus i ystyried negeseuon gwadd sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Mae’r neges o ddiddordeb i’n cynulleidfa graidd (defnyddwyr yn agored i newid y ffordd maent yn prynu, yn defnyddio ac yn gwaredu dillad).
- Mae’r awdur yn ymwneud yn weithgar â maes dillad cynaliadwy.
- Mae’r testun yn berthnasol i’n nod o newid ymddygiad defnyddwyr mewn perthynas â chylch bywyd dillad.
- Mae’r neges yn un anfasnachol eu natur yn bennaf, h.y. nid hysbyseb yn unig ydyw ar gyfer eich cynnyrch/gwasanaethau, yn hytrach mae’n cynnwys gwerth ychwanegol i ddarllenwyr.
Croes-negeseua
- Rydym yn hyblyg ynglŷn â chroes-negeseua. Rydym yn hapus i gyhoeddi negeseuon gwadd sydd hefyd wedi’u cyhoeddi ar eich gwefan eich hun.
- Byddem yn hapus i drafod blogio cyfatebol, e.e., ninnau’n blogio gwadd ar eich gwefan chi bob yn ail â chithau’n blogio ar ein gwefan ni.
Blaen-gynllunio
- Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i negeseuon gwadd lle mae’r testun yn gyfredol, ac os oes modd, yn gysylltiedig â themâu yn ein calendr cynnwys.
- Cysylltwch â ni ymlaen llaw gyda’ch syniadau ac fe wnawn ni weithio gyda chi i drefnu eich neges wadd ar gyfer y slot amser mwyaf priodol.
Golygu
- Efallai y byddwn yn golygu copi o’ch neges blog yn ysgafn am resymau golygyddol, e.e. i gyd-fynd â’n harddull tŷ. Fe wnawn ni wirio eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau cyn cyhoeddi.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gysylltu â ni ynglŷn â chyfrannu at ein gwefan, yna cysylltwch â ni.