Gall prynu’n ddoethach olygu dewis dillad o wneuthuriad gwell, dillad a fydd yn hawdd gofalu amdanynt. Neu efallai nad oes angen i chi brynu o gwbl – gallech hurio neu gyfnewid dillad yn lle hynny.
Gall prynu dillad ail-law fod yn ffordd wych o gael golwg newydd, a hynny am bris gryn dipyn yn rhatach na phrisiau’r Stryd Fawr. Ac mae hen ddillad yn golygu y gallwch fod yn steilus ac yn unigryw, gan y byddant yn aml yn defnyddio lliwiau a ffabrigau nad ydynt i’w cael yn y siopau heddiw.
Mynnwch gael gwybod mwy am brynu gwell, gyda’n cynghorion a’n canllawiau hwylus.