Creu top a sgert allan o ffrog

Crefftau creadigol: creu top a sgert allan o ffrog

Os ydych wedi cael digon ar hen ffrog wedi treulio, beth am ei thrawsffurfio i fod yn ddwy eitem newydd ar gyfer eich wardrob?

Mae creu dau ddilledyn newydd yn hawdd gyda’n canllaw cam wrth gam – y cyfan sydd ei angen arnoch yw edau, elastig, peiriant gwnïo ac ychydig o amynnedd.

Byddwn yn addysgu’r sgiliau i chi wrth i chi gwblhau’r dasg, a bydd gennych ddau ddilledyn newydd gwych hefyd!