sut i newid tyniad sip sydd wedi torri

Cyweiriad cyflym: sut i newid tyniad sip sydd wedi torri

Pan mae tyniad sip yn torri, gall fod yn demtasiwn cael gwared ar ddilledyn (a sip) da.

Ond nid oes angen i chi wneud hynny os byddwch yn gwybod sut i drwsio’r broblem. A phan fydd yn cynnwys rhywbeth mor syml â chlip papur, gall ychydig bach o amser arbed llawer iawn o arian.

Gwiriwch ein canllaw, sydd hefyd yn cynnwys awgrym gwych i gydweddu tyniad eich sip newydd â’ch dilledyn.

 

Mae ein ffilmiau 'Cyweiriad Cyflym' wedi cael eu noddi gan Ariel fel rhan o’n her ‘Adnabod Eich Labeli Gofal #yndrylwyr’. Fel un o’r brandiau gofal ffabrig blaenllaw, mae Ariel wedi uno â ni i’ch helpu i ddeall labeli gofal yn drylwyr ac ymestyn oes eich dillad.

Lawrlwythiadau

Sut i newid tyniad sip sydd wedi torri - Canllaw

Adobe PDF - 1.14 MBLawrlwytho